Analluogi llamlen
Er mwyn cael rhagolwg ar eich eitem ar ôl ei lwytho, mae'n rhaid ichi sicrhau nad yw eich porwr yn blocio'r llamlen fydd yn ymddangos.
Gan fod porwyr y we yn newid yn gyson, y ffordd gyflymaf ydy mynd i dudalennau cymorth eich porwr i gael gwybodaeth gyfredol. Dyma ddolenni i wybodaeth am lamlenni mewn pedwar porwr gwe poblogaidd.
Firefox
Yn Firefox, gallwch ychwanegu gwefannau penodol i restr o wefannau a ganiateir neu sy'n cael eu heithrio. Wedi ichi ychwanegu gwefan i'r rhestr hon, bydd llamleni o'r wefan honno i'w gweld bob tro. Mae tudalennau cymorth Mozilla yn dangos sut mae rheoli gosodiadau ar gyfer llamlenni o fewn Firefox.
Chrome
Fel yn achos Firefox, yn Chrome gallwch ychwanegu gwefannau penodol i restr sy'n cael ei ganiatáu fel bod llemlenni'r wefan honno bob amser yn ymddangos. Am ragor o wybodaeth am reoli gosodiadau llamlenni o fewn Chrome, cymerwch olwg ar ddogfennau cefnogi Google.
Safari
Os ydych chi wedi caniatáu blociwr llamlen Safari gallech ddal i gymryd golwg ar yr eitem a lwythoch ar Ragolwg Llamlen fel y byddech yn disgwyl. Ni fyddai blociwr llamlen Safari yn rhwystro llamlenni rhag agor os ydych chi wedi clicio ar fotwm neu ddolen ar dudalen gwe.
Internet Explorer
Mae rhestr gwestiynau Microsoft (Microsoft's FAQ ) yn dangos sut y dylech droi blociwr llamlen Internet Explorer ymlaen ac i ffwrdd. Dewiswch y fersiwn ar gyfer eich porwr yn y fwydlen sy'n ymddangos ar y dde uchaf.