"Honour before Honours"

Cyhoeddwyd cyfrol am hanes Ysgol Dr Williams - "Honour before Honours - the DWS Story" - wedi'i ymchwilio a'i olygu gan Merfyn Wyn Tomos BA, PGCE, MCLIP, DAA.

Comisiynwyd y llyfr gan Gymdeithas Cyn-ddisgyblion Ysgol Dr Williams, ac fe'i noddwyd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.  Fe'i cyhoeddwyd gan gwmni Nereus, Y Bala, Gogledd Cymru, yn ystod mis Rhagfyr 2009.

Lansiwyd y gyfrol gan Gymdeithas y Cyn-ddisgyblion ar ben blwydd yr Ysgol - 5 Chwefror, 2010 - yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.

Bu'n llwyddiant ysgubol, gan werthu'r holl gopïau mewn dim o dro.  Felly, er fod "Honour before Honours" ar gael mewn llyfrgelloedd cyhoeddus, yn anffodus, nid oes copïau ar gael i'w prynu erbyn hyn.

Cysylltwch ag info@dwsoga.org.uk os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r llyfr.