Merched mewn Hanes

Eluned Morgan (1870-1938)

Cafodd Eluned Morgan Jones ei geni yn y flwyddyn 1870 ar fwrdd y llong 'Myfanwy' yn ystod y daith o Gymru i'r Wladfa ym Mhatagonia.  Caiff ei hystyried ymysg prif awduron Patagonia drwy gyfrwng y Gymraeg.  Merch i Lewis Jones oedd Eluned, un o sefydlwyr Y Wladfa.

Yn 1885, cafodd ei hanfon i Ysgol Dr Williams i orffen ei haddysg.  Cymraeg a Sbaeneg oedd ei dwy iaith gynhenid, ond roedd ganddi hefyd ychydig o Saesneg.  Ni allai ddirnad pam fod siarad Cymraeg wrth y bwrdd bwyd yn cael ei wahardd, a byddai'n annog ei ffrindiau (oedd yn cynnwys Winnie Ellis, chwaer yr A.S. Tom Ellis) i wrthryfela yn erbyn y rheol o beidio siarad Cymraeg.  Dim ond ymyrraeth Dr Michael Jones, Y Bala, un arall o sefydlwyr Y Wladfa ym Mhatagonia, lwyddodd i setlo'r mater.

Cliciwch yma er mwyn gweld yr erthygl a ysgrifennodd ar gyfer rhifyn cyntaf Cylchgrawn yr Ysgol yn 1887, ar ôl dychwelyd i Batagonia.  Roedd yn feirniadol o'r ysgol, gan gwyno nad oedd unrhyw lyfrau Cymraeg yn y llyfrgell o gwbl, er mai'r iaith honno oedd iaith gyntaf llawer iawn o'r disgyblion.  Byddai'n annog mwy o'i chyd-ddisgyblion i siarad a darllen Cymraeg.  Atebodd y Golygydd drwy ddweud fod rhai cylchgronau a llyfrau Cymraeg ar gael.

Dathlwyd canrif a hanner ers i'r 'Mimosa' hwylio o Lerpwl i Batagonia ar 28ain Mai, 2015.  Gellir darllen rhagor am wladychiad y Cymry ym Mhatagonia drwy bori gwefan Glaniad


Y Fonesig Margaret Lloyd George 1864-1941.

images/10Downingstreet1921.jpg

Mynychodd Margaret Owen o Gricieth Ysgol Dr Williams yn fuan wedi agoriad yr ysgol yn 1878.  Mae copïau o'i hadroddiadau ysgol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, a'r rheiny mewn llawysgrifen gain. Er eu bod wedi colli llawer o'u lliw dros y blynyddoedd, maent yn dal yn ddadlennol gan ddatgelu pynciau'r cwricwlwm, ac adlewyrchu naws yr ysgol ar y pryd.  Byddai prydlondeb, cwrteisi, mynychu cyson a gallu'r disgybl mewn pynciau gwahanol yn cael eu trafod.  Roedd Margaret, fel llawer disgybl arall y dyddiau hyn, fel yn y dyddiau hynny, yn cael y dyfarniad y 'Gallai wneud yn well'! mewn rhai meysydd.

Cliciwch ar y ddolen hon i weld ei hadroddiadau ar wefan Casgliad y Werin Cymru.

Cafodd yr Ysgol ei hasesu yn 1879 gan D Lewis Lloyd M.A. o Goleg yr Iesu, Rhydychen, a ddywed yn ei grynodeb o'i gasgliadau: “There is no shame, no pretence and no nonsense. The work is real, solid, and substantial, and may I be allowed to express my firm belief that North Wales possesses in Dr Williams’ School the means of effecting a revolution in the education of girls of the middle classes in the Principality”.

Priododd â David Lloyd George yn 1888, fu'n Brif Weinidog Prydain rhwng 1916 a 1922. Yn 1920, cafodd Margaret ei gwneud yn 'Dame Grand Cross of the Order of the British Empire (GBE)' i gydnabod ei gwaith yn codi dros £200,000 ar gyfer elusennau rhyfel. Hi wnaeth agoriad swyddogol pont yr ysgol yn 1938.

Ysgol Dr Williams yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Janet Bronwen Alun Pugh (Is-iarlles Astor) (died 28th December 2017)- mynychodd Ysgol Dr Williams yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac fe ysgrifennodd gofnod byw iawn o'i phrofiadau ar y pryd.  Cadwyd ei llythyrau adref yn ofalus gan ei thad, Y Barnwr Alun Pugh, gan nodi'r dyddiadau.  Mae dolen i'w hanes a'i bywyd yn Nolgellau yn ystod y cyfnod hwnnw i'w weld ar Letters Home in WW2 .  Obituary

Ysgrifennodd disgybl arall, Glenys Davies, am ei phrofiadau yn “DWS Changes from 1939 – 45”,   Un o'r profiadau cofiadwy hynny oedd ymweliad gan gwmni theatr yr 'Old Vic' i berfformio Macbeth yn yr Ysgol gyda'r Fonesig Sybil Thorndike a Lewis Casson.

Dylanwad Ysgol Dr Williams ar ddisgyblion oedd yn astudio Cerdd a'r Celfyddydau

Cafodd Dilys Elwyn Edwards (Roberts) 1918-2012 ei geni yn Nolgellau gan fynychu Ysgol Dr Williams yn ystod y tridegau.  Yn ystod cyfweliad a recordiwyd ganddi yn 1984, bu'n trafod dylanwad yr ysgol arni a'i gyrfa ym myd cerdd.  Gellir gwrando ar y cyfweliad Cymraeg hwn dan y pennawd Ffeiliau Sain ar y wefan hon.

Bu Dilys yn feirniad eisteddfodol gan ymddangos ar radio a theledu yn perfformio neu drafod.  Comisiynodd y BBC nifer o weithiau ganddi, gan gynnwys“Mae Hiraeth yn y Môr", soned gan y bardd R Williams Parry, a gomisiynwyd gan  Kenneth Bowen yn 1962. Cafodd gryn ganmoliaeth fel priodas glasurol hapus rhwng geiriau a cerddoriaeth yn y Gymraeg, ac mae'n dal i gael ei chymeradwyo.  Barddoniaeth Gymraeg oedd sail y rhan fwyaf o'i chaneuon mwy diweddar.  Yn 2004, recordiodd Bryn Terfel “The Cloths of Heaven” ar ei gryno ddisg o ganeuon “Silent Noon”.

Mae'r cyfweliad hwn hefyd yn cyfeirio at Marion Eames (1921-2007) fu'n ddisgybl yn yr ysgol rhwng 1932 a 1937. Caiff ei hystyried yn un o nofelwyr hanesyddol mwyaf blaenllaw Cymru.  Mae ei nofelau cyntaf, 'Y Stafell Ddirgel' (1969) a 'Y Rhandir Mwyn' (1972) yn weithiau hanesyddol seiliedig ar Grynwyr ardal Dolgellau, a'u hymfudiad i Bennsylvania.  Dyma ddolen i wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy'n cynnig rhagor o wybodaeth am ei nofelau.