Dyma hanes addysg yn yr oes a fu, gan gynnwys y traddodiadau, rheolau, ieithwedd a diwylliant oedd yn rhan ohono. Daeth disgyblion i Ysgol Dr Williams o bob cyfeiriad - o Brydain, o wledydd eraill y byd, ac wrth gwrs, o Feirionnydd ei hunan, gan greu cymuned unigryw fu'n bod am bron gasrif (Trefyn Amser).
Rhowch gynnig ar ddilyn y themâu gwahanol - mae un ar ddeg ohonynt ar gael. Byddai 'Torri'r Rheolau' yn lle difyr i ddechrau. Ewch i chwilio am yr awdur Cymraeg o Batagonia, Eluned Morgan Jones, fu'n traethu yng nghylchgrawn yr ysgol yn 1897, neu gallech ddarllen llythyrau Bronwen Pugh at ei theulu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. O gyfnod y 60au, ceir straeon am redeg i ffwrdd, 'dwyn' y te bedydd esgob, a drama ysgol drychinebus.
Cedwir cofnodion Ysgol Dr Williams yn Archifdy Meirionnydd, Dolgellau, ac mae llawer wedi'u cyhoeddi ar y wefan.
Meddai Miss Lickes, fu'n Brifathrawes yno:
"It may be that someone in the future will undertake the writing of the history of the school … I believe that Dr Williams’ School has an honourable place in the history both of Dolgellau and of British education, especially in the early history of education for girls, and that it is our responsibility to see that it is not forgotten"-
D.B Lickes (Prifathrawes 1946 -1969)