Ffeiliau Sain

Casgliad o recordiadau cyfoes a hanesyddol, yn cynnwys cerddoriaeth gorawl a thapiau llafar:

  • Cerddoriaeth Nadoligaidd
  • Cerddoriaeth yr haf
  • Tapiau llafar
  • Gwasanaeth Diolchgarwch - Gorffennaf 1975
  • Emyn a Salm yr Ysgol

Rydyn ni'n ddiolchgar i Brifysgol Huddersfield (Yr Adran Technoleg Cerdd) am ein galluogi i rannu ein cynnyrch cerddorol, ac am ddigideiddio a gwella'r sain.  Gwelir seren gerllaw'r teitl yn y recordiadau arbennig hynny.  Diolchwn i Mr John Peel a wnaeth y recordiadau gwreiddiol o gyngherddau Nadolig a'r haf,  a hefyd rannau o'r Gwasanaeth Diolchgarwch ar achlysur cau'r ysgol yn 1975.  Diolchwn hefyd i BBC Radio Cymru am ganiatáu inni atgynhyrchu rhai darnau o dapiau rhaglenni. Ceir logo'r BBC ar y recordiadau hynny, sydd yn Gymraeg.  Diolch hefyd i Gillian Green MBE, o Live Music Wales, am hwyluso'r recordiad gan gôr o ferched o Ysgol Gorawl Eglwys Gadeiriol Llandaf yn canu emyn a salm yr ysgol.

Yn olaf, diolch i bawb sydd wedi cyfrannu - yn y ganrif ddiwethaf, ac yn ystod yr unfed ganrif ar hugain.

Adrodd am broblem - cais am ddileu deunydd a lwythwyd

Cerddoriaeth Nadoligaidd

*'Hodie Christus Natus Est' - Ôl-ymdaith - 1965
Hyd: 1 munud 31 eiliad Dyddiad recordio: 16 Rhagfyr 1965 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Neuadd Ysgol Dr Williams, Dolgellau

'Hodie Christus Natus Est' gan Benjamin Britten o 'A Ceremony of Carols' yn cael ei chanu'n ddigyfeiliant gan grŵp bach o ferched wrth iddynt adael neuadd yr ysgol, yng ngolau cannwyll, ar derfyn y Cyngerdd Nadolig.  Fe glywir eu lleisiau'n pylu wrth iddynt gerdded i lawr drwy'r coridorau gwag tuag at y neuadd fwyta.  Roedd hi'n draddodiad canu'r 'Hodie' adeg y Nadolig ar ddechrau ac ar ddiwedd y cyngerdd. Dyma dudalen olaf y rhaglen o'r cyngerdd gwreiddiol.  Fe glywch hefyd sŵn crafu cadeiriau'r gynulleidfa.

*' 'This Little Babe' o 'Ceremony of Carols' - Côr yr Ysgol 1967 neu 1968
Hyd: 1 munud 37 eiliad Dyddiad recordio: Nadolig 1967 neu 1968 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Neuadd Ysgol Dr Williams, Dolgellau

Y côr, neu efallai'r Gymdeithas Fadrigal, yn canu 'This Little Babe', i gyfeiliant piano, o waith Benjamin Britten - 'A Ceremony of Carols', yn ystod y cyngerdd Nadolig blynyddol.

Byddai'r Adran Gerdd yn Ysgol Dr Williams yn aml yn cynhyrchu darnau o gerddoriaeth newydd, heriol a chynhyrfus.  Yn ystod yr 1960au, cafodd y disgyblion eu cyflwyno i weithiau Benjamin Britten a Kodaly.


*Loywaf o'r Sêr - a genir gan yr Ysgol gyfan, oddeutu 1966
Hyd: 2 funud 30 eiliad Dyddiad recordio: Tua 1966 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Neuadd Ysgol Dr Williams

Dewis y Golygydd:  Gwrandewch ar grafiadau cadeiriau a gyddfau'n cael eu clirio wrth i bawb sefyll yn neuadd yr ysgol, gyda'r organ yn chwarae'r cyflwyniad i'r garol Gymraeg hon, sydd i mi, yn llawn atgofion o ddathliadau'r Nadolig yn DWS.

*'Torches' - y côr yn 1967 neu 1968
Hyd: 1 munud 19 eiliad Dyddiad recordio: Cyngerdd Nadolig 1967 neu 1968 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Neuadd Ysgol Dr Williams, Dolgellau

Daeth 'Torches', a gyfansoddwyd gan John Joubert a'i chyhoeddi yn 1951, yn fuan yn un arall a ymddangosai'n rheolaidd ar raglen flynyddol Cyngerdd y Nadolig yn DWS.  Yma, fe'i cenir gan y côr i gyfeiliant piano.  Ni wyddom pwy ydy'r unawdydd sy'n canu'r ail bennill.


* 'Deo Gratias' o 'A Ceremony of Carols', gan y côr 1965
Hyd: 1 munud 15 eiliad Dyddiad recordio: 16 Rhagfyr 1965 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Neuadd Ysgol Dr Williams, Dolgellau

Yma mae Côr yr Ysgol yn canu 'Deo Gratias' o'A Ceremony of Carols' gan Benjamin Britten i gyfeiliant piano. Mrs K.M. Thomas, pennaeth cerdd yn yr ysgol ar y pryd oedd yn arwain, gan weithio ochr yn ochr â Miss Wendy Edwards bryd hynny.  Fe welwch fod 'Deo Gratias' wedi'i rhestru ar Raglen Cyngerdd y Nadolig 1965

* 'How Shall I Fitly Meet Thee ?' - o'r 'Christmas Oratorio' gan J.S. Bach. Cenir gan y côr 1969
Hyd: 1 munud 48 eiliad Dyddiad recordio: 14 Rhagfyr 1969 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Neuadd Ysgol Dr Williams, Dolgellau

I gyfeiliant organ, mae Côr yr Ysgol yn canu darn o 'Christmas Oratorio' J.S. Bach. Fe glywir cryn dipyn o besychu a chrafu cadeiriau ar ddechrau'r trac.

* Adroddgan o 'Christmas Oratorio' - unawdydd Eirian Davies 1969
Hyd: 2 funud 48 eiliad Dyddiad recordio: 14 Rhagfyr 1969 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Neuadd Ysgol Dr Williams, Dolgellau

Adroddgan o 'Christmas Oratorio' J.S. Bach;  credwn mai Eirian Davies oedd yr unawdydd yma.  Aeth Eirian yn ei blaen i wneud gyrfa iddi'i hun fel canwr opera.  Yma, mae hi'n canu i gyfeiliant organ.  Mae cantorion eraill (anhysbys) i'w clywed tua diwedd y darn.


* And the Angel said 'Be not afraid'- Adroddgan a genir gan Eirian Davies 1969
Hyd: 0 munud 49 eiliad Dyddiad recordio: 14 Rhagfyr 1969 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Neuadd Ysgol Dr Williams, Dolgellau

Allan o 'Christmas Oratorio' J.S.Bach. Credwn mai Eirian Davies ydy'r unawdydd, sy'n canu i gyfeiliant organ.


* 'Of Virgin born doth lay his head' allan o'r 'Christmas Oratorio' - gan y côr 1969
Hyd: 1munud 13 eiliad Dyddiad recordio: 14 Rhagfyr 1969 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Neuadd Ysgol Dr Williams, Dolgellau

Darn corawl o 'A Christmas Oratorio' J.S. Bach. Gallwch glywed pawb yn sefyll, crafu cadeiriau, a rhai'n pesychu wrth i'r organ ddechrau chwarae.  Yna, mae'r côr yn cychwyn canu.


* Y garol 'Holy Night' - cenir gan y gynulleidfa a'r disgyblion - 1965
Hyd: 3 munud 45 eiliad Dyddiad recordio: 16 Rhagfyr 1965 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Neuadd Ysgol Dr Williams, Dolgellau

'Holy Night' gan Gruber. Credwn mai yn 1965 y gwnaed y recordiad hwn.  Y côr sy'n canu'r ail bennill. Cliciwch yma er mwyn cael gweld  rhaglen wreiddiol y cyngerdd. Cenir 'Holy Night' i gyfeiliant organ.  Byddai Neuadd yr Ysgol wedi'i haddurno bob Nadolig gyda deiliach bythwyrdd, celyn ac eiddew, wedi'i gasglu gan y disgyblion, a'i osod i ymgordeddu dros falconi'r llyfrgell.


* Lleisiau digyfeiliant yn canu carol Blygain - Carol y Blwch - oddeutu 1969
Hyd: 1 munud 55 eiliad Dyddiad recordio: oddeutu 1969 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Neuadd Ysgol Dr Williams, Dolgellau

Lleisiau digyfeiliant yn canu carol Blygain Gymraeg - Carol y Blwch gan gyfansoddwr anhysbys.  Ni wyddom pwy yw'r cantorion yma.

* Carol ddideitl Gymraeg gan yr emynydd Elfed - unawdydd yn canu'n ddigyfeiliant, tua1969
Hyd: 2 funud 47 eiliad Dyddiad recordio: Tua 1969 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Neuadd Ysgol Dr Williams, Dolgellau

'Joseph hoff, rwyf wedi blino….' ydy llinell gyntaf y garol hon a gyfansoddwyd gan Elfed (1860-1953). Ar hyn o bryd, nid wyddom pwy yw'r gantores.  Mae hi'n cychwyn drwy ganu'n dawel, ond yn cynyddu mewn hyder wrth i'r darn fynd yn ei flaen.


* 'Ding Ding' (?) carol gan leisiau, tambwrîn a phiano - tua 1969
Hyd: 2 funud 10 eiliad Dyddiad recordio: Tua 1969 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Neuadd Ysgol Dr Williams, Dolgellau

Wedi'i recordio, o bosib, gan y Côr Iau tua 1969, i gyfeiliant y piano a thambwrîn.  Geiriau disynnwyr sydd yma ac acw drwy'r darn - ' Ding Ding'. Mae'r cyfansoddwr yn anhysbys pan ysgrifennir y geiriau hyn.

* 'O Deued Pob Cristion' - cenir gan yr ysgol gyfan, tua 1968
Hyd: 1 munud 9 eiliad Dyddiad recordio: Tua 1968 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Neuadd Ysgol Dr Williams, Dolgellau

Roedd y garol adnabyddus a hoff hon bob amser yn rhan o ddathliadau'r Nadolig yn yr ysgol.  Byddai'r ysgol gyfan yn ei chanu yn y gwasanaethau boreol a hefyd yn y cyngherddau Nadolig.


* Y garol 'Down in Yon Forest' - gan y côr neu'r gymdeithas fadrigal, tua 1967
Hyd: 1 munud 8 eiliad Dyddiad recordio: Tua 1967 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Neuadd Ysgol Dr Williams, Dolgellau

Carol Saesneg draddodiadol wedi'i threfnu gan Ralph Vaughan Williams a'i chanu gan y Côr, neu efallai gan y Gymdeithas Fadrigal oddeutu  1967


Y garol 'O Come All Ye Faithful' gan y côr, y disgyblion a'r gynulleidfa, tua 1965
Hyd: 3 munud 42 eiliad Dyddiad recordio: Rhagfyr 1965 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Neuadd Ysgol Dr Williams, Dolgellau

I derfynu pob cyngerdd Nadolig blynyddol, byddai pawb yn y gynulleidfa yn canu'r garol 'O Come All Ye Faithful' i gyfeiliant organ gyda desgant sy'n anelu at yr entrychion.  Dyma ddolen i dudalen olaf rhaglen y Cyngerdd Nadolig 1965.

Yn union ar ôl i'r gynulleidfa ganu'r garol Saesneg draddodiadol hon, byddai dwsin o ferched yn gorymdeithio'n araf o'r neudd yn canu'r Ôl-ymdaith o 'A Ceremony of Carols' Benjamin Britten, a elwid yr 'Hodie'.  Mae'r darn yma hefyd ar gael ymysg y ffeiliau sain Nadoligaidd.  Yna, caem fynd adref i dreulio'r Nadolig!

Cerddoriaeth yr haf

'Mûn a Bugail' - Disgyblion DWS yn canu gyda Chôr Ieuenctid Meirionnydd 1949
Hyd: 1 munud 11 eiliad Dyddiad recordio: Awst 1949 Recordiad gan: Cwmni Gwyn Man recordio: Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1949 - Dolgellau

Dewisiwyd rhai disgyblion o Ysgol Dr Williams i gymryd rhan yng Nghôr Ieuenctid Meirionnydd.  Un o'r caneuon a ganwyd gan y Côr iau oedd Mûn a Bugail. Dyma lun o'r côr yn yr Eisteddfod.

'Y Mae Afon' - 12 o aelodau côr DWS gyda'r Côr Ieuenctid yn yr Eisteddfod Genedlaethol 1949
Hyd: 1 munud 48 eiliad Dyddiad recordio: Awst 1949 Recordiad gan: Cwmni Gwyn Man recordio: Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Dolgellau 1949

Bu rhai o aelodau côr yr ysgol yn rhan o Gôr Ieuenctid a gystadlodd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Nolgellau yn 1949. Enillodd deuddeg o ddisgyblion o'r pumed a'r chweched dosbarth, a elwid yn 'Parti Deuddeg' drwy ganu 'Y mae afon' gan Daniel Protheroe. Atgynhyrchir y recordiad drwy ganiatâd Cwmni Gwyn..

Cliciwch ar y ddolen i weld deuddeg o aelodau'r côr ac yma i ddarllen hanes y diwrnod, wedi'i ysgrifennu gan Bidi Davies, un o'r Parti Deuddeg.

* 'Linden Lea' - Vaughan Williams- y Côr Hŷn, Gorffennaf 1974
Hyd: 2 funud 18 eiliad Dyddiad recordio: Gorffennaf 1974 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Neuadd yr Ysgol

Y Côr Hŷn yn canu'r eitem olaf ar raglen cyngerdd yr haf -'A Summer Serenade' 1974 - i gyfeiliant piano a chwaraeir gan Christine Ellis.

* 'Breadbaking' gan Bartok - y Côr Madrigal Hŷn 1974
Hyd: 2 funud 18 eiliad Dyddiad recordio: Gorffennaf 1974 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Neuadd yr Ysgol

I gyfeliant piano, mae'r Côr Madrigal Hŷn yn canu 'Breadbaking' yng nghyngerdd yr haf - 'Summer Serenade'.


*' As Torrents in Summer' gan Elgar - y Côr Hŷn 1974
Hyd: 2 funud 26 eiliad Dyddiad recordio: Gorffennaf 1974 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Neuadd Ysgol Dr Williams

Dyma'r Côr Hŷn yn canu 'As Torrents in Summer' i gyfeiliant piano ar gyfer cyngerdd yr haf 1974 - 'Summer Serenade'.Christine Ellis sydd wrth y piano.

* 'El Grillo' (Y Criciedyn) Josquin des Prez - Y Côr Madrigal Hŷn, Gorffennaf 1974
Hyd: 1 munud 53 eiliad Dyddiad recordio: Gorffennaf 1974 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Neuadd Ysgol Dr Williams

Y Côr Madrigal Hŷn, yn canu i gyfeiliant piano, ar gyfer cyngerdd yr haf 1974 - y 'Summer Serenade'

* 'Serenade' - Bizet (The Fair Maid of Perth) - y Côr Hŷn 1974
Hyd: 2 funud 31 eiliad Dyddiad recordio: Gorffennaf 1974 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Neuadd Ysgol Dr Williams

Y côr hŷn, yn canu darn gan Bizet i gyfeiliant piano, a genir gan Christine Ellis, ar gyfer cyngerdd yr haf 1974 - y 'Summer Serenade'.

* 'Santa Lucia' - gan y Côr Madrigal Iau, 1974
Hyd: 1 munud 42 eiliad Dyddiad recordio: Gorffennaf 1974 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Neuadd Ysgol Dr Williams

Y Côr Madrigal Iau sydd yma'n canu'r gân Neopolitanaidd hon ar gyfer cyngerdd yr haf, 1974, i gyfeiliant piano.


* 'Old Mother Hubbard' - y Côr Hŷn - Gorffennaf 1974
Hyd: 2 funud 3 eiliad Dyddiad recordio: Gorffennaf 1974 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Neuadd Ysgol Dr Williams

Wedi'i gosod yn arddull Handel gan V. Hely-Hutchinson a'i chanu gan y Côr Hŷn i gyfeiliant piano ar gyfer cyngherdd yr haf 1974 - y 'Summer Serenade'.  Christine Ellis sydd wrth y piano.

* 'I will give my love an apple' - trefniant V. Williams, a genir gan Hannah Lovegrove 1974
Hyd: 1 munud 52 eiliad Dyddiad recordio: Gorffennaf 1974 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Neuadd Ysgol Dr Williams

Trefniant gan V. Williams o gân werin Seisnig, a genir yma gan Hannah Lovegrove i gyfeiliant gitâr. Rhan o'r rhaglen far gyfer cyngerdd yr haf 1974 - sef y 'Summer Serenade'.

* 'I Would that my Love' - gan Mendelssohn, a genir gan 'The Troubadours' (Upper Fourth) 1974
Hyd: 1 munud 52 eiliad Dyddiad recordio: Gorffennaf 1974 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Neuadd Ysgol Dr Williams

'The Troubadours', o'r bedwaredd flwyddyn, yn canu 'I would that my Love' gan Mendelssohn i gyfeiliant piano ar gyfer cyngerdd yr haf 1974, a elwid 'A Summer Serenade'.  Ar hyn o bryd, mae enwau'r cantorion a'r cyfeilydd yn anhysbys inni.

Tapiau Llafar

Bod yn ddisgybl yn DWS - Rhan 1 - Profiad un disgybl
Hyd: 7 munud 42 eiliad Dyddiad recordio: 2008 Recordiad gan: Medwen Roberts ar gyfer BBC Radio Cymru Man recordio: Dolgellau

images/BBC_logo_small.jpg

Darn o raglen a recordiwyd yn 2008 pan gyfwelwyd cyn-ddisgyblion ynglŷn â'u profiadau yn yr ysgol.  Mae'r darn hwn yn cynnwys disgyblion yn sôn am eu profiadau bob dydd, a'u hargraffiadau o'r ysgol.





Bod yn ddisgybl yn DWS - Rhan 2 - Dysgu ac addysgu
Hyd: 6 munud 34 eiliad Dyddiad recordio: 2008 Recordiad gan: Medwen Roberts ar gyfer BBC Radio Cymru Man recordio: Dolgellau

images/BBC_logo_small.jpgDarn o raglen recordiwyd yn 2008 pan gyfwelwyd cyn-ddisgyblion ynglŷn â'u profiadau yn yr ysgol.  Mae'r darn hwn yn cynnwys rhai disgyblion yn sôn y dysgu, a'r addysg a gawsant yn yr ysgol.


Bod yn ddisgybl yn DWS - Rhan 3 - Cerddoriaeth a Drama
Hyd: 4 munud 14 eiliad Dyddiad recordio: 2008 Recordiad gan: Medwen Roberts ar gyfer BBC Radio Cymru Man recordio: Dolgellau

BBC Radio Cymru logoDarn o raglen a recordiwyd yn 2008 pan gyfwelwyd cyn-ddisgyblion am eu profiadau yn yr ysgol.  Mae'r darn arbennig hwn yn cynnwys y disgyblion yn trafod traddodiad cerddorol yr ysgol.  
Mae'r recordiad yn Gymraeg.


Bod yn ddisgybl yn DWS - Rhan 4 - Bwyta ac ymddygiad
Hyd: 7 munud 48 eiliad Dyddiad recordio: 2008 Recordiad gan: Medwen Roberts ar gyfer BBC Radio Cymru Man recordio: Dolgellau

BBC Radio Cymru logo

Rhan o raglen a recordiwyd yn 2008 pan gyfwelwyd cyn-ddisgyblion am eu profiadau yn yr ysgol.  Mae'r darn hwn yn cynnwys disgyblion yn trafod yr ymddygiad a ddisgwylwyd ganddynt dros brydau bwys, profiadau rhai o aelodau'r staff wrth ymdrin â disgyblion, ac agweddau tuag at siarad Cymraeg yn ystafell y staff.  

                                     Mae'r recordiad hwn yn Gymraeg.


Bod yn ddisgybl yn DWS - Rhan 5 - Chwaraeon a Hamddena
Hyd: 3 munud 4 eiliad Dyddiad recordio: 2008 Recordiad gan: Medwen Roberts ar gyfer BBC Radio Cymru Man recordio: Dolgellau

images/BBC_logo_small.jpgRhan o'r rhaglen a recordiwyd yn 2008 oedd yn cynnwys cyfweliadau gyda chyn-ddisgyblion am eu profiadau yn yr ysgol.  Mae'r darn yma'n cynnwys disgyblion yn trafod chwaraeon yn yr ysgol a dringo Cader Idris.  Mae hefyd yn cynnwys aelod o'r staff yn trafod cau'r ysgol yn 1975, a'i pherthynas gydag aelodau hŷn y staff yn yr ysgol.

Atgofion Elinor Owen am DWS rhwng 1936 a 1944
Hyd: 8 munud 24 eiliad Dyddiad recordio: 11eg Hydref 2014 Recordiad gan: Jennifer Hutcheson Man recordio: Cartref Elinor yn Northumberland

Cafodd Elinor ei geni yn 1926, ac roedd yn ferch i athro lleol, ac yma mae hi'n disgrifio cael ei hanfon i Ysgol Dr Williams fel disgybl ddyddiol pan oedd hi'n 9 oed yn 1936.  Bryd hynny, roedd y merched dyddiol yn cael eu cadw ar wahân i'r disgyblion oedd yn lletya yno.  Mae hi'n trafod ei hatgofion am athrawes Saesneg ysbrydoledig,Dorothy 'Do' Davies, Miss Nightingale y Brifathrawes oedd yn Grynwr, ymweliad gan Dame Sybil Thorndike a Lewis Casson (gyda chwmni theatr yr 'Old Vic' ) yn ystod y rhyfel, dillad isaf a 'liberty bodices', y wisg ysgol, syspendars, hetiau panama, cemeg a choginio, canu anthemau cenedlaethol y cyngrheiriaid ar Ddiwrnod Heddwch, y neuadd 'newydd', y llyfrgell a'r twll i'r gerddorfa, a chael ei galw'n "Dr Williams' 'Pink Pills'". Mae Elinor yn diffinio beth oedd 'grannie's luggage' a 'smiles'.

Sybil Thorndike fel 'Lady Macbeth' yn Ysgol Dr Williams - 1941
Hyd: 2 funud 34 eiliad Dyddiad recordio: 2 Ebrill 1941 Recordiad gan: Jennifer Hutcheson ym mis Medi 2015; mae'r awdur yn anhysbys Man recordio: Gorllewin Swydd Efrog

Gwnaed y recordiad hwn ar sail erthygl yng nghylchgrawn yr ysgol sy'n dweud hanes perfformiad yn neuadd yr Ysgol o'r ddrama 'Macbeth' yn 1941.  Sybil Thorndike oedd yn portreadu Lady Macbeth, a'i gŵr, Lewis Casson, oedd yn chwarae 'Macbeth'.

Aeth y ddrama ar daith gyda chwmni theatr yr 'Old Vic', oedd wedi symud o Lundain i Burnley yn ystod y rhyfel.  Caed perfformiadau gan Sybil Thorndike a Lewis Casson ar draws Gogledd Lloegr a thrwy Gymru, gan ymweld â neuaddau pentref neu neuaddau ysgolion, profiad go wahanol i berfformio yn theatrau Llundain.  Ar 2 Ebrill 1941, daethant i berfformio ynYsgol Dr Williams, gan greu cynnwrf mawr trwy'r Ysgol.  Ar dudalennau llyfr llofnodion ceir llofnod nifer o actorion amlwg eu dydd ac mae'r stori hon -'DWS Changes from 1939-45hefyd yn dwyn atgofion am yr achlysur.

* Atgofion Vera Gibbon, fu'n ddisgybl yn Ysgol Dr Williams rhwng 1933 a 1935
Hyd: 6 munud 21 eiliad Dyddiad recordio: Rhagfyr 2008 Recordiad gan: Margaret Hewitt a Nesta Wynn Jones Man recordio: Swydd Efrog

Atgofion Vera Gibbon am ei bywyd yn Ysgol Dr Williams;  mae hi'n sôn am ei hathrawes Saesneg, 'Do' Davies, gwersi cerddoriaeth, a chwaraeon.  Mae yma hefyd gyfraniadau gan Nesta Wynn Jones, oedd yn ddisgybl yn ystod y 50au a'r 60au, sydd hefyd yn trafod ei hatgofion am 'Do', ymdrechion codi arian ar gyfer pwll nofio'r ysgol, gwersi ynganu, a pheidio bod yn gallu siarad Saesneg nes ei bod yn wyth oed.  Mae Vera hefyd yn sôn am gymryd rhan mewn cyngherddau ysgol a dylanwad 'tawel' Miss Nightingale, y brifathrawes oedd yn Grynwr, oedd ddim yn credu mewn cosbi disgyblion, ond yn hytrach bwysigrwydd syrthio ar eich bai ac ymddiheuro.

Mae Vera Gibbon hefyd wedi cofnodi ei hatgofionar y safle.

Bod yn athro yn DWS - safbwynt yr athro 1965-67
Hyd: 4 munud 16 eiliad Dyddiad recordio: 29ain Gorffennaf 2015 Recordiad gan: Nesta Wynn Jones Man recordio: Amwythig

Sgwrs rhwng Nesta Wynn Jones (cyn-ddisgybl) a Margaret Hewitt, fu'n dysgu Saesneg yn Ysgol Dr Williams rhwng 1965 a1967 (ei phenodiad cyntaf fel athrawes).  Mae Miss Hewitt yn trafod ei phrofiad o fod mewn amgylchedd braidd yn strwythuredig, a'i chyfrifoldebau fel athro.  Mae hi hefyd yn trafod ei hargraffiadau o fywyd y merched oedd yn lletya yn yr ysgol, a'r brifathrawes Miss Lickes, (fu'n bennaeth rhwng 1947a 1969) a'i dylanwad ar yr ysgol.

Dr Lyn Davies yn sgwrsio gyda Dilys Elwyn Edwards yn 1984
Hyd: 3 munud, 36 eiliad Dyddiad recordio: 11eg Ebrill, 2015 Recordiad gan: BBC Radio Cymru 'Cofio' Man recordio: Anhysbys

Rhaglen Radio Cymru - ‘Cofio’, a gyflwynwyd gan John Hardy, 11 Ebrill 2015.

Yn ystod y cyfweliad gan Dr Lyn Davies yn 1984, mae Dilys Elwyn Edwards yn trafod y dylanwad a gafodd Ysgol Dr Williams ar ddatblygiad ei gyrfa gerddorol.

Gellwch ddarllen rhagor am Dilys Elwyn Edwards ar ein tudalen Merched mewn Hanes.

Gwasanaeth cau

*Anerchiad gan Archesgob Cymru, Dr. G.O. Williams - Gorffennaf 1975
Hyd: 7 munud 24 eiliad Dyddiad recordio: Gorffennaf 1975 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Eglwys y Santes Fair, Dolgellau

Mae'r recordiad yma'n rhan o anerchiad gan Archesgob Cymru, yr Hybarch G.O.Williams D.D. yn ystod gwasanaeth cau Ysgol Dr Willilams yn Eglwys y Santes Fair, Dolgellau. Yn ei anerchiad, mae'r Archesgob yn canmol y canu ac ymddygiad y merched a fu ato i'w derbyn yn ystod y 18 mlynedd y bu'n gyfarwydd â'r Ysgol. Nododd mai ychydig iawn o'r disgyblion (yn ôl ei brofiad ef) oedd yn ariannog, grymus nag uchel eu safle, ac mae'n gresynu at y chwyddiant ariannol dybryd a'i ganlyniadau trist sydd wedi gadael eu marc ar sefydliadau elusennol. Meddai: 'Great harm will be done (gan gyfeirio at fwriadau llywodraeth y dydd) 'unless other ways are found of providing boarding education for those, who for any reason, stand in need'. Dywedodd y byddai dylanwad cyn-ddisgyblion yr ysgol yn mynd ymlaen i gael effaith gadarnhaol am genedlaethau i ddod. Gweler toriad papur newydd am y gwasanaeth ar yr Oriel sydd ar y wefan.

Atgynhyrchir y recordiad hwn yma gyda chaniatâd caredig yr Eglwys yng Nghymru.

Noder: Clywir hymian yn y cefndir drwy gydol y recordiad na fu'n bosib ei ddileu oddi ar y recordiad tâp gwreiddiol.

* Emyn 'Am brydferthwch daear lawr'- y gynulleidfa, Gorffennaf 1975
Hyd: 2 funud 53 eiliad Dyddiad recordio: Gorffennaf 1975 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Eglwys y Santes Fair, Dolgellau

I gyfeiliant Mrs K. M Thomas ar yr organ, mae'r gynulleidfa'n canu 'Am brydferthwch daear lawr'. Cenir desgant ar yr ail bennill, a'r olaf.


* 'We love the place where Thine honour dwells' allan o 'Requiem' Brahms - gan y Côr, Gorffennaf 1975
Hyd: 5 munud 28 eiliad Dyddiad recordio: Gorffennaf 1975 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Eglwys y Santes Fair, Dolgellau

I gyfeiliant Mrs K M Thomas ar yr organ, mae'r Côr yn canu'r anthem 'We Love the Place Where Thine Honour Dwells', sef aralleiriad o Salm 84 allan o 'Requiem' Brahms.


* 'Salm 105' o'r 'Magnificat' gan Palestrina - Y Côr, Gorffennaf 1975
Hyd: 1 munud 57 eiliad Dyddiad recordio: Gorffennaf 1975 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Eglwys y Santes Fair, Dolgellau

Hon oedd yr ymdeithgan yn y gwasanaeth Diolchgarwch.  Fe'i cenid gan y Côr ac unawdydd anhysbys.

Mae rhywfaint o sŵn hymian yng nghefndir y recordiad hwn.

* Salm yr Ysgol - 'I will lift up mine eyes unto the hills' - y gynulleidfa, Gorffennaf 1975
Hyd: 2 funud 24 eiliad Dyddiad recordio: Gorffennaf 1975 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Eglwys y Santes Fair, Dolgellau

Y gynulleidfa yn canu Salm 121, a elwid yn 'Salm yr Ysgol' gan y disgyblion.  Mrs K M Thomas sy'n chwarae'r organ.

Gan mai ar recordydd tâp y gwnaed y gwreiddiol, dydy'r sain ddim bob amser yn glir, ac fe glywir hymian yn y cefndir.

* Emyn yr Ysgol - cenir gan y gynulleidfa, Gorffennaf 1975
Hyd: 2 funud 54 eiliad Dyddiad recordio: Gorffennaf 1975 Recordiad gan: John Peel Man recordio: Eglwys y Santes Fair, Dolgellau

Canu Emyr yr Ysgol am y tro olaf.

Emyn a Salm yr Ysgol

Emyn Ysgol Dr Williams - Côr yr Ysgol, Eglwys Gadeiriol Llandaf - 2010
Hyd: Dyddiad recordio: 2010 Recordiad gan: Live Music Now Wales Man recordio: Ysgol Eglwys Gadeiriol Llandaf, Caerdydd

Recordiwyd Emyn Ysgol Dr Williams gan gôr o ferched o Ysgol Eglwys Gadeiriol Llandaf, dan arweiniad Simon Lovell-Jones. Cyflwynir y recordiad hwn i un o gyn-ddisgyblion Ysgol Dr Williams, ac aelod o staff yr Adran Gerdd yn ddiweddarach, sef y gyfansoddwraig Dilys Elwyn Edwards (1918 – 2012). Rydym yn ddiolchgar iawn i gyn-ddisgybl arall, Gillian Green MBE o ‘Live Music Now Wales', am hwyluso'r recordiad.

Salm yr Ysgol 'I will lift up mine eyes unto the Hills' - Côr Ysgol Eglwys Gadeiriol Llandaf - 2010
Hyd: Dyddiad recordio: 2010 Recordiad gan: Live Music Now Wales Man recordio: Ysgol Eglwys Gadeiriol Llandaf, Caerdydd

Merched sy'n aelodau o gôr Ysgol Eglwys Gadeiriol Llandaf yn canu Salm 121 dan arweiniad Simon Lovell- Jones. Fe'i gelwid yn 'Salm yr Ysgol'.

Cyflwynir y recordiad hwn er cof am gyn-ddisgybl a chyn aelod o staff yr Adran Gerdd, y gyfansoddwraig Dilys Elwyn Edwards (1918 – 2012). Rydym yn ddiolchgar i Gillian Green MBE o ‘Live Music Now Wales’, cyn-ddisgybl arall, am hwyluso'r recordiad.