Traddodiad Cerddorol

Roedd gan Ysgol Dr Williams draddodiad cerddorol cryf iawn, gafodd ddylanwad parhaol ar amryw o'r disgyblion.  Dyma hanes gafodd ei ysgrifennu gan gyn-ddisgybl sy'n enghraifft o'r dylanwad yma.

Cymerodd rai aelodau o gôr yr ysgol ran yn y Côr Ieuenctid a ganodd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru gynhaliwyd yn Nolgellau yn 1949. Galwyd y merched yma o'r pumed a'r chweched dosbarth yn Barti Deuddeg.  Cawsant eu hyfforddi gan y ddiweddar Menna Carrington Jones, fu'n dysgu cerdd yn Ysgol Dr Williams rhwng 1948 ac 1951.

Y darn enillodd y wobr oedd 'Y mae afon' .Cliciwch yma i wrando Y mae afon, Daniel Protheroe gyda chaniatâd 'Cwmni Gwyn'.

Mrs K M Thomas, athrawes gerdd arall o DWS, oedd yn cyfeilio ar y piano, ynghyd â Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru dan arweinyddiaeth Clarence Raybold. Un o'r caneuon a ganwyd gan y côr (tua 300 o ran maint) oedd  Mun a Bugail .

Ysgrifennodd un o'r 'Parti Deuddeg' hanes ei phrofiadau , ac mae llun o'r grŵp hefyd i'w weld yn yr oriel.

 images/Music_Staff_July_17_1951_l-r_Miss_Hill__MissCarrington_Jones_Mrs_Thomas__Miss_Cusick___Mrs_Cox._Choir___Orchestra_picnic_at_Cynwch_Lake..jpg             images/DWS_senior_orchestra_1951.jpg

                                                                       Y staff Cerdd, a'r Gerddorfa Hŷn 1951

audio

      

Ewch i dudalen Ffeiliau Sain i wrando ar enghreifftiau eraill o gerddoriaeth gafodd ei chwarae yn yr ysgol.

Gallwch hefyd ymweld a'n sianel YouTube am fideos o gerddoriaeth ysgol