Quaker Walk around Dolgellau

Dewch i gerdded yn ôl troed y Crynwyr gafodd eu herlid oherwydd eu ffydd - hanes a groniclwyd yn

‘Y Stafell Ddirgel’ gan Marion Eames, cyn-ddisgybl yn Ysgol Dr Williams

Cychwyn: Maes Parcio’r Bont Fawr
Pellter: Tua 6 milltir
Amser: Tua 31/2 awr

Tirwedd: Rhai llwybrau serth drwy’r goedwig, gwlyb dan draed ar brydiau. Angen dillad glaw, esgidiau cerdded cryf, bwyd a diod.

Y llyfr - nofel hanesyddol gydag elfen o ffuglen sy’n olrhain hanes erledigaeth y Crynwyr yn ystod yr 1680au gyda dau brif arwr: Rowland Ellis ac Ellis Pugh a fudodd i Bennsylvania i ddianc rhag cael eu herlid yn 1686; gwnaeth y ddau eu marc ym Mhennsylvania, gan i Rowland Ellis gael ei ethol i gynrychioli Philadelphia yng nghynulliad y dalaith, ac Ellis Pugh drwy ysgrifennu’r llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei gyhoeddi yn America, sef ‘Annerch i’r Cymru’; cafodd hwn ei gyfieithu i’r Saesneg yn ddiweddarach gan Rowland Ellis dan y teitl ‘Salutation to the Britains’.

Catherine James fydd yn arwain y daith, gan ei bod yn awdurdod ar Grynwriaeth (Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion), a bydd rhai o’r mannau allweddol y sonnir amdanynt yn y llyfr yn rhan o’r daith. Bydd Catherine yn trafod hanes y Crynwyr ar y ffordd.

  • Bydd y dro yn cychwyn o (A) ‘Y Bont Fawr’ , ychydig lathenni o’r lle y byddai stôl drochi yn cael ei defnyddio fel barnwr a rheithgor ar dynged y rhai a amheuwyd o fod yn wrachod – marwolaeth fyddai’r canlyniad un ffordd neu’r llall. Dyma fu tynged dyweddi Ellis Pugh yn y llyfr. Wrth groesi Pont yr Arran a throi i ddilyn y llwybr i Goed Aberneint, byddwn yn mynd heibio ‘Y Meirionnydd’; dyma safle carchar y sir ar un adeg, lle byddai llawer o gymeriadau’r llyfr yn cael eu carcharu oherwydd eu ffydd.
  • Mynd trwy Goed Aberneint, a chroesi pont er mwyn dilyn llwybr drwy’r goedwig a chyrraedd (B) ‘Brynmawr’ (OS 728166)- cartref Rowland Ellis. Gallwn ddychmygu mai hwn fyddai’r llwybr fyddai Rowland Ellis yn ei ddilyn ar gefn ceffyl gan deimlo’n hynod ddiflas wrth gofio’r digwyddiad atgas a welodd yn y ffair ar lannau’r Wnion yn Nolgellau. Yn nhalaith Pennsylvania, mae tref a phrifysgol a enwyd i goffáu Brynmawr a godwyd ar ei dir yn dilyn ei farwolaeth.
  • Cerddwn yn llwybr Rowland Ellis wrth iddo fynd heibio (C) Dewisbren Uchaf (OS 754170), cartref Dorti Owen a (D) Capel Tabor (OS 756174), man cyfarfod cyntaf y Crynwyr yn yr ardal, cyn cyrraedd (E) Tyddyn Garreg (OS 754176).
  • Tyddyn Garreg oedd un o’r llefydd y byddai’r Cyfeillion yn cyfarfod am dros ganrif, ac yma mae safle Mynwent y Crynwyr. Byddwn yn dychwelyd ar hyd Fron Serth, a chyrraedd yn ôl i gael cinio hwyr yn un o gaffis niferus y dref.

Ymunwch â ni i gerdded y llwybr hanesyddol a diddorol hwn, a dysgu rhai ffeithiau newydd am hanes Dolgellau.