Atgofion Melys 1952-58

I ble mae y blynyddoed yn mynd dywedwch ? Newydd ddod adref o gyfarfod yn Griccieth hefo aelodau Cymdeithas hen Genethod DWS a da oedd gweld cynifer dda wedi troi I fynnu ac yn edrych mor dda! Mae hyn wedi fy sbarduno I roid ychydig o bethau 'rwyf yn cofio am fy amser yn yr ysgol yn y pumdegau.

Mam yn fy nanfon yn naw oed ac yn fy ngadael yn Tremhyfryd (yr un gwreiddiol), mi dorais fy ngalon bach a crio am wythnos! Ond aros oedd rhaid a gwneud y gorau o bopeth. Mynd ymlaen mewn blwyddyn i'r Ysgol Fawr ac medru helpu y gennod newydd yn yr un sefyllfa i setlo i fewn i Dormy 9b, lle roedd rhan fwyaf o honnom yn Gymru.

Dysgu chwarae piano hefo Menna Carrington Jones a practisio yn yr ystafelloedd bach cyfyng yn y " Music Wing" pob diwrnod am hanner awr, ar ben ein hunain, a sefyll Arholiadau ar Y Grand Piano pob blwyddyn i gael tystysgrif gradd. Ymuno a'r cor a mwynhau pob mynud ohonno yn enwedig cymeryd rhan yn yr Opera Papageno!

Mynd i'r Capel pob bore Sul , croesi y bont bach o flaen yr ysgol dros Yr Wnion, ac yn eistedd yn y blaen ac yn edrych ar yr hogiau o'r ysgol Ramadeg ar ein chwith, gan obeithio cael sgwrs ar ol yr oedfa,cyn cael ein hebrwng mewn crocodeil yn ol i'r ysgol am ginio! Wedyn gorfod mynd am dro "Walks "dan ofal y "Prefects", i wahanol lefydd yn y pnawn.

Prydau yn yr ystafell bwyta, a gorfod eistedd o dan llygaid barcud yr athrawon lle roedd pobeth yn gorfod cael ei wneud yn y fordd iawn, fel gras, a " Do Begin," ar ol gofalu bod pawb or neulltu wedi cael bopeth yr oedden ei angen. Cael mynd a pot jam o adref hefo eich enw arno unwaith y tymor, I roid ar y tafelli anferth o fara menyn "Door Steps " ! Gorfod eistedd ar fwrdd y Prif Athrawes pob hyn a hyn a symud rownd yn eich tro I siarad hefo hi am bethau diddorol, pawb yn nerfys iawn !

Digon o fwyd, "seconds" os oeddwch eisiau, y ffefrynnau gennyf oedd " Cheese and Potato Pie " a Pwdin Chocolate hefo cwstard brown ! Doeddwn ddim yn hoffi pwdin llefrith, yn enwedig "Murder on the Alps" semolina hefo jam coch!

Doedd gennym ddim Pwll Nofio ar yr adeg, ond yn ystod y tywydd braf ar ol arholiadau, 'roedd yn bleser cael mynd ar fws I Fairbourne lle 'roedd gan yr ysgol gwt lan y mor I newid, ac lle roeddem yn cael ymdrochi yn y mor, rhyddhad llwyr! Cofio hefyd mwynhau chwarae criced yn Penycoed a chwarae yn y tim yn erbyn ysgolion fel Moreton Hall ger Abergele .

Mynd i'r "Sick Wing" pob bore I gael llond llwy fawr o "Cod Liver Oil A Malt" roedd Mam wedi anfon I mi, ac hefyd cael fy nghaethiwio am dair wythnos mewn ystafell fach yna am fod fy chwaer wedi cael y frech ieir tra roeddwn adref dros Dolig, I arbed yr holl ysgol ei ddal gennyf, adeg unig iawn lle roedd amser yn pasio yn araf iawn i hogan unar ddeg oed .

Ar ol chwe mlynedd difyr ar y cyfan, mi ddoeth yn amser i adael a symud ymlaen I Ysgol arall I astudio Gwyddoniaeth, gan adael ffrindiau da hefo'r addewid i gadw mewn cystylltiad.' Rwyf yn falch dweud ein bod wedi gwneud hynny ar y cyfan.

Fel diweddglo i fy amser yn yr ysgol, wrth deithio ar y tren o Dolgellau I Bwllheli, wrth groesi y bont ger Bermo mi daflais fy het i'r mor, ond aros yn y cof mae y lle roedd wedi rhoi sylfaen cadarn ar fy mywyd ac y pobl roedd wedi bod yn rhan ynddo gyda diolch am y fraint.

Leave a comment

Comments (0)



Please login to comment.

  • Uploaded by:Eirian James
  • Approximate date of item:
    From: -- - 1952
    To: -- - 1958
  • Location:Dolgellau
  • County:Merioneth
  • Creator:Ann Pat Williams
  • Related Story:
  • Themes:Pupil experience  

Share This Story

Comments (0)