Telerau ac amodau ar gyfer defnyddio gwefan Ysgol Dr Williams

Drwy gofrestru ar wefan Ysgol Dr Williams, rydych yn cadarnhau fod gennych gysylltiad â’r ysgol a/neu gyda Chymdeithas Cyn-ddisgyblion yr Ysgol. Byddwch yn derbyn neges e-bost yn cadarnhau eich bod yn ddefnyddiwr cofrestredig cyn gynted ag y byddwn wedi gwirio’r cysylltiad hwnnw.

Mae gan ddefnyddwyr cofrestredig yr hawl i bori yn yr adran honno o’r wefan sy’n ymwneud yn benodol â Chymdeithas y Cyn-ddisgyblion lle cyhoeddir gwybodaeth am ddigwyddiadau, delweddau, a chopi o’r cyfansoddiad.

Gall defnyddwyr cofrestredig gyfrannu adnoddau ar ffurf straeon personol, ymchwil, cofnodion gwreiddiol neu ddelweddau, a gallent hefyd gynnig sylwadau ar eitemau eraill a gyhoeddwyd.

Lluniwyd y Telerau ac Amodau gan gadw mewn cof gyfranwyr posib tuag at y wefan h.y. uwchlwytho/rhannu straeon a delweddau, neu gynnig sylwadau am ddeunydd a osodwyd arni.  Nid ydynt yn berthnasol os mai ar gyfer cael gwybodaeth yn unig yr ydych yn edrych ar wefan Cymdeithas y Cyn-ddisgyblion.

Er hynny, gobeithiwn y byddwch yn penderfynu cyfrannu deunydd eich hunan pan fyddwch wedi pori drwy'r wefan.  Drwy ychwanegu eich atgofion a'ch delweddau at y wefan, byddwch yn helpu datgelu agwedd bersonol ar hanes difyr yr ysgol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Cliciwch ar y ddolen hon

er mwyn gweld fersiwn lawn y telerau ac amodau ar gyfer ychwanegu deunydd i'r wefan hon.