Canllawiau hawlfraint

Bwriad y canllawiau hyn ydy gofalu bod defnyddwyr yn deall goblygiadau atgynhyrchu a chyhoeddi deunydd.  Darllenwch nhw'n ofalus i sicrhau fod modd i bobl eraill fwynhau eich atgofion chi.

Gellwch lawrlwytho'r wybodaeth hon ar ffurf PDF yma

Beth ydy hawlfraint?

Hawl ar eiddo deallusol ydy hawlfraint, such rhoi i'r perchennog freintiau economaidd a deallusol dros y defnydd a wneir o'i waith, a'i ddosbarthiad.  Nid oes raid ei hawlio - daw i fodolaeth yn awtomatig pan fydd gwaith yn cael ei greu.

Meysydd:

1. Crëwr

Crëwr unrhyw waith, boed hwnnw'n ffotograff, testun neu recordiad, ydy daliwr yr hawlfraint gan amlaf.


Beth fyddwch angen ei wybod cyn llwytho deunydd i'r we?

  • Os yw'n ffotograff, y crëwr yw'r person a dynnodd y llun
  • Os yw'n waith ysgrifenedig, y crëwr yw'r person a ysgrifennodd y darn
  • Os yw'n recordiad sain, y crëwr yw cynhyrchydd y deunydd

2. Perchennog

Llenwch y maes yma os yw daliwr yr hawlfraint yn wahanol i'r person a greodd yr eitem.  Er enghraifft, os bu farw'r person a greodd yr eitem wreiddiol, a bod yr hawlfraint wedi'i basio i'w ddisgynydd, rhowch enw'r person hwnnw yma.

Ailddefnyddio:

  • Gellir ailddefnyddio deunydd dan hawlfraint a lwythir i'r we dan amodau trwydded 'Creative Commons CC NY-BC', sy'n golygu y gellir ei ddefnyddio i amcanion anfasnachol os rhoddir cydnabyddiaeth i ddaliwr yr hawlfraint.  Petai'r defnyddiwr yn anghytuno â thelerau'r drwydded, dylai gysylltu â gweinydd y wefan a fydd efallai'n gallu trafod telerau ychydig yn wahanol.
  • Mae'r wybodaeth hon yn hynod o bwysig, gan ei bod yn anghyfreithlon atgynhyrchu neu gyhoeddi gwaith dan hawlfraint heb ganiatâd daliwr yr hawlfraint.  O'r herwydd, mae'n hollbwysig gwneud pob ymdrech bosib i gasglu'r wybodaeth hon.

Beth i'w wneud os nad ydych yn gwybod pwy yw'r Crëwr na'r Perchennog:

Mewn achos felly, mae'r gwaith hwnnw'n cael ei gyfeirio ato fel gwaith amddifad.  Mae gwefan Ysgol Dr Williams yn barod i gyhoeddi unrhyw waith amddifad dan gymal 'rhoi gwybod a dileu'.  Ystyr hyn ydy y gellid ei dynnu oddi ar y wefan petai daliwr yr hawlfraint yn gwneud cais i hynny ddigwydd.