Canllawiau catalogio

Mae'r canllawiau yma i'ch helpu i ddisgrifio'ch eitemau mor drwyadl â phosib.  Darllenwch drwyddynt os gwelwch yn dda, fel y bydd pawb sy'n ymweld â'r wefan yn gallu mwynhau'r eitemau sydd wedi cael eu cyfrannu gennych.

Gallwch lawrlwytho'r wybodaeth sy'n dilyn ar ffurf PDF yma

Teitl:

Dylai hwn ateb y cwestiynau Pwy, Beth, Lle, Pryd am yr eitem dan sylw.  Ceisiwch ei wneud mor ddisgrifiadol â phosib, fel bod defnyddwyr eraill yn gallu dod o hyd iddo'n hawdd.

Disgrifiad:
Rhowch fwy o fanylion sydd gennych am yr eitem.  Dylid cynnwys enwau pobl sy'n ymddangos mewn llun, os gwyddoch chi pwy ydyn nhw, a'u lleoliad yn y llun e.e. o'r chwith i'r dde.

Y dyddiad yn fras

Rhowch ddyddiad creu'r eitem hyd y gwyddoch.  Rhowch y mis hefyd os ydy'r wybodaeth honno ganddoch chi, ond peidiwch â phoeni os nad yw.

Lleoliad:
Rhowch enw unrhyw leoedd, fel enw'r dref neu'r pentref sy'n berthnasol i'r eitem.  Bydd hyn yn cynnwys Dolgellau yn aml iawn.  Rhowch anhysbys os nad ydy'r wybodaeth ar gael.

Sir:
Dewiswch pa sir sydd fwyaf perthnasol i'r eitem e.e. Meirionnydd.

Hawlfraint:
Llenwch y darn hwn mor gywir ag sy'n bosib.  Mae Hawlfraint yn rhoi i'r perchennog hawliau dros y defnydd a wneir o'r eitem.  Darllenwch y canllawiau hawlfraint am ragor o wybodaeth am hyn.

Crëwr: Crëwr ffotograff ydy'r person gymerodd y llun, a chrëwr testun ydy'r awdur.  Os mai llun o ddogfen ysgrifenedig ydy'ch delwedd chi, fel dyddiadur er enghraifft, rhowch enw'r person a grëodd y ddogfen yn y copi caled.  Os na wyddoch pwy oedd y crëwr, rhowch anhysbys - peidiwch â'i adael yn wag.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y canllawiau hawlfraint.

Perchennog (os yw'n wahanol):
Rhowch enw daliwr hawlfraint yr eitem os yw'n wahanol i'w grëwr.  Gweler canllawiau hawlfraint.

Thema: Ystyriwch pa thema fyddai'n ffitio orau.  Os hoffech chi, gallech ddewis mwy nag un drwy ddal un ai 'Control' neu 'Command' i lawr ar yr allweddell.

Tagiau:
Rhowch unrhyw eiriau allweddol sy'n berthnasol i'r eitem e.e. ar gyfer ffotograff sy'n darlunio picnic ar lan y môr, y tagiau fyddai:  picnic, ar lan y môr.